PARKWOOD LEISURE REMAINS KEY PILLAR IN DRIVING PHYSICAL ACTIVITY ACROSS WALES
Leading leisure operator, Parkwood Leisure, has continued its commitment to promoting physical activity and community engagement across Wales through substantial grant funding and facility refurbishments.
In partnership with Parkwood’s sub-contractor Legacy Leisure, Barry, Llantwit, Penarth and Cowbridge Leisure Centres in the Vale of Glamorgan received over £1 million in funding to refurbish and redesign the gyms in each leisure centre and upgrade the existing equipment with premium new Life Fitness cardio and strength training equipment. As a result, following the refurbishments, gym memberships increased and footfall across all four leisure centres in the Vale of Glamorgan rose by 29%.
These enhancements reflect Parkwood Leisure’s commitment to providing diverse and high-quality leisure experiences for the Welsh community.
Parkwood Leisure and Legacy Leisure were recently awarded Learn to Swim Provider of the Year 2024 at the SWIM Wales awards. The win recognises the operators delivery and development of the Swim Wales Learn to Swim framework and underscores Parkwood’s commitment to promoting water safety and quality swimming education.
Furthermore, Legacy Leisure clinched the Health Impact Award for its community Musculoskeletal Hubs in the Vale of Glamorgan and at Cardiff International Pool. This award acknowledges the significant positive impact of the Good Boost programmes delivered within MSK Hub facilities, contributing to improved health outcomes for over 1,500 individuals.
Partners Legacy Leisure engage in community grant funding projects by providing financial support to local clubs and initiatives across Wales, demonstrating commitment to promoting accessible swimming and life-saving activities.
Whitmore Bay Surf Lifesaving Club, Barry Beavers Disabled Swimming Club, and Cardiff International Pool & Gym have each received £500 in financial support, empowering them to enhance their offerings and community impact.
Whitmore Bay Surf Lifesaving Club, known for its Nipper Junior section, has benefited from funds allocated towards essential equipment and programme development, promoting inclusivity and skill development within the community. Barry Beavers Disabled Swimming Club has utilised the funding to invest in IT equipment, enhancing their training capabilities to onboard more crucial volunteers. The beloved Cardiff International Pool & Gym used funding to support the participation of Team Wales in the Commonwealth Lifesaving Championships, amplifying the facility’s global presence and fostering sporting excellence.
Parkwood not only drives community engagement and healthy lifestyles through its leisure centres, but also through its two prominent outdoor education facilities within Wales. Plas Menai, the National Outdoor Centre for Wales, was added to the portfolio of sites in February 2023 and has already seen a refurbished cafe, implementation of the Learn to Swim programme and renovated fitness room.
Meanwhile, Parkwood’s outdoor education centre, Dolygaer, has seen incredible success after continually innovating the product through renovations and increased accommodation offering. Dolygaer won the award for “Best Day Out” at the Welsh Hospitality Awards 2023, and was highly commended in the “Outdoor Venue of the Year” category. This was the fifth annual Welsh Hospitality Awards ceremony, which celebrates and promotes the highest standards in Welsh hospitality.
–ENDS–
Welsh version
Mae’r gweithredwr hamdden blaenllaw, Parkwood Leisure, wedi parhau â’i ymrwymiad i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru drwy gyllid grant sylweddol ac adnewyddu cyfleusterau.
Mewn partneriaeth ag is-gontractwr Parkwood, Legacy Leisure, derbyniodd Canolfannau Hamdden y Barri, Llanilltud, Penarth a’r Bont-faen ym Mro Morgannwg fwy nag £1 miliwn o gyllid i adnewyddu ac ailgynllunio’r campfeydd ym mhob canolfan hamdden ac uwchraddio’r offer presennol gydag offer cardio a hyfforddiant cryfder newydd o safon uchel Life Fitness. O ganlyniad, yn dilyn y gwaith adnewyddu, cynyddodd aelodaeth y campfeydd a chynyddodd nifer yr ymwelwyr ar draws y pedair canolfan hamdden ym Mro Morgannwg 29%.
Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Parkwood Leisure i ddarparu profiadau hamdden amrywiol o ansawdd uchel i’r gymuned yng Nghymru.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd gwobr Darparwr Dysgu Nofio y Flwyddyn 2024 i Parkwood Leisure a Legacy Leisure yng ngwobrau Nofio Cymru. Mae’r fuddugoliaeth yn cydnabod bod y gweithredwr yn cyflawni ac yn datblygu fframwaith Dysgu Nofio Nofio Cymru ac mae’n tanlinellu ymrwymiad Parkwood i hyrwyddo diogelwch dŵr ac addysg nofio o safon uchel.
Yn ogystal, enillodd Legacy Leisure y Wobr Effaith ar Iechyd am ei Hybiau Cyhyrysgerbydol cymunedol ym Mro Morgannwg ac ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd. Mae’r wobr hon yn cydnabod effaith gadarnhaol sylweddol y rhaglenni Good Boost sy’n cael eu darparu o fewn cyfleusterau’r Hybiau Cyhyrysgerbydol, gan gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwell i fwy na 1,500 o unigolion.
Mae’r partner, Legacy Leisure, yn cymryd rhan mewn prosiectau cyllid grant cymunedol drwy ddarparu cefnogaeth ariannol i glybiau a mentrau lleol ledled Cymru, gan ddangos ymrwymiad i hyrwyddo nofio hygyrch a gweithgareddau achub bywyd.
Mae Clwb Achub Bywyd Syrff Bae Whitmore, Clwb Nofio i’r Anabl Beavers y Barri, a Phwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa wedi derbyn £500 yr un mewn cefnogaeth ariannol, gan eu grymuso i wella eu darpariaeth a’u heffaith gymunedol.
Mae Clwb Achub Bywyd Syrff Bae Whitmore, sy’n adnabyddus am ei adran Iau Nipper, wedi elwa o arian a neilltuwyd ar gyfer offer hanfodol a datblygu rhaglenni, gan hyrwyddo cynhwysiant a datblygu sgiliau yn y gymuned. Mae Clwb Nofio i’r Anabl Beavers y Barri wedi defnyddio’r cyllid i fuddsoddi mewn offer TG, gan wella eu galluoedd hyfforddi i gynnwys mwy o wirfoddolwyr hanfodol. Defnyddiodd Pwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa arian i gefnogi cyfranogiad Tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Achub Bywyd y Gymanwlad, gan gynyddu presenoldeb byd-eang y cyfleuster a meithrin rhagoriaeth mewn chwaraeon.
Mae Parkwood nid yn unig yn ysgogi ymgysylltu cymunedol a ffyrdd o fyw iach drwy ei ganolfannau hamdden, ond hefyd drwy ei ddau gyfleuster addysg awyr agored amlwg yng Nghymru. Ychwanegwyd Plas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, at y portffolio o safleoedd ym mis Chwefror 2023 ac mae’r caffi yno eisoes wedi cael ei adnewyddu, y rhaglen Dysgu Nofio wedi cael ei rhoi ar waith ac ystafell ffitrwydd wedi cael ei hadnewyddu.
Yn y cyfamser, mae canolfan addysg awyr agored Parkwood, Dolygaer, wedi cael llwyddiant anhygoel ar ôl arloesi’r cynnyrch yn barhaus drwy waith adnewyddu a chynyddu’r llety a gynigir. Enillodd Dolygaer y wobr am “Diwrnod Allan Gorau” yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru 2023, a chafodd ganmoliaeth uchel yn y categori “Lleoliad Awyr Agored y Flwyddyn”. Hon oedd pumed seremoni flynyddol Gwobrau Lletygarwch Cymru, sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r safonau uchaf yn y byd lletygarwch yng Nghymru.